Parwydydd Penlan Fawr

“Rargol, fedri di ddim rhoid llun Hitlar ar y wal?”

“Pam lai?” meddwn innau, a chyfiawnhau’r peth yn ddigon syml: Dim dilyniant o bethau neis a phobl glên ydyw hanes. Mae’n ymhell o hynny’n weithiau. Cofnod o wneud llwybr drwy frwgaij llwyddo a methu, ennill a cholli, cael y maen i’r wal neu wneud llanast ohoni, ydyw hanes go iawn.

Ni cheir y melys heb y chwerw. Ac i ninnau, Weilz dlawd, rhyw weddillion ydym rywsut, wedi colli ac wedi ein creithio droeon. A phen draw’r peth bellach ydyw na ydym yn aml fyddwn ychwaith yn cofio am ein gorffennol ein hunain – yr amnesia cenedlaethol bondigrybwyll – yn gafael ynddom fel caddug angofus. Byddwn yn gwybod yn o lew am Henri ddi êt-th a Churchill Vawr, ond y nesaf peth i ddim am Lywelyn ap Gruffudd a Chymru 1937.

Cam bychan i geisio dadwneud hynny ydyw’r gybolfa luniau sydd wedi ei gludio ar barwydydd Penlan Fawr: ( lle a ddaeth i’n meddiant ddiwedd 2009). Hanes Pwllheli a Llŷn ac Eifionydd – o ddewis goddrychol sydd i fod yno. Ond beth mae Hitler yn da yno felly? Wel, dydi hanes lleol ddim yn gyflawn heb fod yn rhan o gefndir llawer helaethach ac ehangach. Mae yng nghyd-destun pethau mwy. Felly pan aeth un o fawrion ac arwyr yr ardal, D. Lloyd George ei hun, i dref Bechtesgarten ym Mafaria yn 1938 i gyfarfod a Herr Hitler, Canghellor yr Almaen, mae’n ddigwyddiad o sylwedd rhyngwladol a lleol. Yn y llun agosaf ato mae Lloyd George yn 1906, fel aelod seneddol Pwllheli, yn agoriad swyddog Clwb Golff y dref . Mae’r ddau lun yn cyferbynnu a chysylltu, yn dangos y rhyngwladol a’r lleol yn cydio yn ei gilydd.

Beth arall sydd ar y wal felly ? Gybolfa, fel y dywedais, ond yn dilyn rhyw linyn arian hanesyddol. Mae ar un pared gyfnod o gychwyn y dref yn gynnar yn y 13g. gan Lywelyn Fawr hyd gyfnod y Tuduriaid, ac ar y wal fwyaf o’r cyfnod hwnnw tan tua’r flwyddyn 2000.

Doedd hi ddim mor hawdd cael deunydd am y cyfnodau cynharaf, wrth gwrs ond o’r ddeunawfed ganrif ymlaen mae’n gynyddol haws. Wedi dweud hynny, y broblem o beth i’w ddethol o blith gormod ydyw hi’n yr 20g.

Oes mae yna lun o’r brenin Iorwerth I – dyn y dylem fel Cymru fod yn ei ystyried yn yr un cae â Hitler. Mi laddodd filoedd ohonom a meddiannu’n gwlad, methyg gan yr Iddewon cyn lladd neu eu halltudio o’i deyrnas a chyda’i harian ac arian arall fynd ati i godi i weithredu’r project codi cestyll mwyaf yn Ewrop er mwyn ein gorthrymu ni. Rhaid i ni gofio pethau fel yna i ddyall sut ydym fel yr ydym. A dyall Harri’r seithfed wedyn a’i grechwen graff yn agor y porth i’n troi’n Brydeinwyr ffyddlon.

Wedyn, ar ddarn arall y pared mae ymdrechu taer a ddewr-fethiannus gweddill ffyddlon o Babyddion i gadw’r fflam yr hen ffydd ynghyn yn cyfiawnhau rhoi lluniau Blas Du a Phenyberth ar y pared ac yn wrthgyferbyniad i hynny Richard Vaughan, Nyffryn, Esgob Llundain yn Brotestant pybyr a fu’n hwyluso ymddangosiad Beibl William Morgan 1588. Mae’r croesdynnu yn bell yn ôl ond yn rhan o’r stori.

Ar ôl hynny daeth y cyfnod pan oedd duwioldeb a Chymreictod bron yr un peth, ac Anghydffurfiaeth yn hollfeddiannol, o’r egin yng Nghapel Nanhoron i’r cynnydd mawr i oes John Elias o Fôn (ond yn gyntaf o Ros Fawr). Ac yn ymyl rhoddwyd darnau o Ddrych yr Amseroedd, Robert Jones Rhos-lan yn mawrygu’r arwyr a’n tywysodd i baradwys ddaearol gapelaidd – o’r erlid cynnar ac ymweliad cenhadol Hywel Harris.

Yn dra phriodol, dyma daro ar ddrama “Hywel Harris” 1932, Cynan – un a anwyd yn yr un stryd â’r dafarn, ac a leolodd Act II y cyfryw ddrama ar y stryd y tu allan i ddrws y Penlan Fawr ei hun. Ni ellir anghofio Cynan wrth sôn am Bwllheli. Fel mae amser yn mynd heibio mae’n cadw ryw werth fel eicon o ryw ramant naïf sydd wedi porthi llawer ohonom ganol y ganrif ddiwethaf.

Ar hap, ond o arwyddocâd bu’r dref yn Eisteddfod 1925 yn lle sefydlwyd y Blaid Genedlaethol a helynt Penyberth yn dilyn yn fuan wedyn yn 1936. Dyma bwytho hanes lleol a hanes Cymru. Ac fel mae’r ugeinfed ganrif yn mynd rhagddi mae cenedlaetholdeb a brwydr yr iaith yn codi lawer mwy i’r wyneb

Yn llym wahanol i Gynan a’i ramant melys, mae un arall a fagwyd ar yr un stryd: John Rhondda (J.R. Jones). Yn yr 1960au mae’n rhoi dadansoddiad caled athronyddol o natur ein gwead a gofynion ar gyfer ein parhad yn ‘Troedle’ o’i lyfr o ysgrifau Gwaedd yng Nghymru. A dyma gerddi Alan Llwyd ac R.S. Thomas yn dangos grym y bygythiad, ac eraill a chysylltiadau amlwg â’r ardal wedi gwneud eu safiadau yn eu tro a’u carcharu am hynny: Jac Williams (J.G.Williams), Owain Williams (Gwynys), a Geraint Jones.

Ni bu Pwllheli heb ei thraddodiad o daeogrwydd ac adwaith. Mae’n dal yn fyw ac yn iach, rwy’n ffyddiog o hynny. Efallai nad yw hynny’n syndod chwaith o gofio ei hanes. A siawns, na fydd y plethiad yma o luniau a waliau yn cyffroi dim ar y trwch uwch eu peintiau o lager neu alcopops. Ond does wybod efallai, y gall roi brathiad tyner o chwilfrydedd ym meddwl ambell ymwelydd, er ei fod yn beryg o fod, ysywaeth, yn fath o ysgrifen ar y mur.