Hanes a Chefndir Penlan Fawr

Yr oedd Penlan Fawr ymhlith nifer o eiddo ym Mhwllheli a’r cyffiniau a gynnid ar werth gan Stad Mostyn. yn 18441. O wybod mai eiddo Mostyn oedd gellid yn hawdd dybio mai eiddo Stad Corsygedol (+Talhenbont) fyddai cyn hynny, gan i’r stad honno yn ei chyfanrwydd drosglwyddo i Stad Mostyn yn y 18g. O ymchwilio i ddogfennau yn Archifdy Caernarfon a Mostyn (Bangor) daw Penlan Fawr i’r golwg ymhlith rhestr eiddo Corsygedol: rhestr eiddo William Vaughan, 17382, a’i gytundeb priodas â Chatherine Nanney, 17323, a rhestr renti ei dad, Richard Vaughan, lle nodir fod John Griffith yn talu £6 ,, 2 ,, 6 y flwyddyn 17244 o rent. O bosib mae cyfeiriad at yr eiddo yn 16755.

O edrych ar achau’r teulu gwelir yn amlwg mai drwy un ai uniad y teulu hwn ag Ann Talhenbont (William Vaughan ac Ann Vaughan yn priodi tua dechrau’r 17g.6) neu yn fwyaf tebygol drwy uniad â theulu Llwyndyrys (Rhys Vaughan a Gwen Anwyl ferch Gruffudd ap Madog yng nghanol y 16g.7) y daeth yr eiddo yn rhan o Stâd Corsygedol. Yr oedd Richard Vaughan (mab Rhys Vaughan a Gwenhwyfar8 Anwyl ) yn uchel siryf Sir Gaernarfon yn 1578, ac yn byw yn Llwyndyrys (ei dad yn y prif dŷ yng Nghorsygedol ?9) a cheir fod ganddo dŷ ym Mhwllheli yn 157810. Nid yw’n annhebygol mai Penlan Fawr oedd y tŷ hwnnw.

Yn ôl infentori y Comisiwn Brenhinol i hen adeiladau a gyhoeddwyd yn 1964 credid fod y portj yn gyfoed â gweddill yr adeilad. Ond wrth edrych ar Benlan Fawr ymddangosai fod y portj wedi ei ychwanegu at y prif adeilad ar gyfnod diweddarach (nid yw lefel y to yn rhedeg mewn modd a fyddai’n gwneud synnwyr pe byddai wedi ei godi’r un pryd, ac nid oes yr un dyfnder o fondo iddo). Wrth dynnu’r gorffeniad gwelwyd nad oedd y cerrig yn pwytho o gwbl, ac mai ychwanegiad diweddarach oedd. Ar yr un pryd canfyddwyd fod yr hen ddrws ffrynt wedi ei flocio ddwylath i’r de o’r un sydd yn y portj. Uwch ei ben ond ychydig i’r chwith, ymddengys i ffenestr gyfled ag ef gael ei blocio, y mae’r trawsfaen yn aros, ond y mae dau drawsfaen sydd yn ei gwneud yn anodd i weld yn union faint y ffenestr honno. Yr oeddwn wedi tybio hefyd y gwelid arwydd nad oedd o leiaf rai o’r 4 ffenestr blaen yn eu llefydd gwreiddiol, ac ymhellach oddi wrth y drws yn enwedig yn achos ochr ddeheuol yr adeilad. Mae tybiaeth nad yw’r agoriadau yn eu mannau gwreiddiol yn gan y Comisiwn Brenhinol yn ogystal. Ond nid oes dim arwydd eglur i mi o hyn.

Am y waliau sydd rhwng colofnau’r porj a’r prif adeilad ar y llawr isaf, ymddengys yn sicr eu bod wedi eu hychwanegu ar ôl y colofnau, ac ar yr un ochr ddeheuol y mae bwlch ffenestr fechan wedi ei blocio. Yr oedd wedi ei blocio gyda cherrig heb forter – pan roddwyd gorffeniad ar yr adeilad yn nechrau’r 20g. efallai. Hefyd canfuwyd y llythrennau “R .V” wedi eu cerfio yn y tywodfaen ar un o golofnau’r portj: Richard Vaughan yn amlwg ond pa un?: bu tri ohonynt yn nheulu Corsygedol. Byddai’r RV cyntaf (siryf sir Gaernarfon yn 1578) yn rhy gynnar mae’n debyg? Bu farw’r RV wedyn yn 30 oed yn 1636, a’i ŵyr yntau, y trydydd yn 1734. Yn wreiddiol yr oeddwn yn gogwyddo tuag at yr un a fu farw yn 1734 o weld fod siâp y ffenestri yn y portj yn fwy confensiynol a chulach, ac eto yr oedd y colofnau tywodfaen yn fy nhynnu i dybio cyfnod hŷn. Ni allaf ateb pa un ar hyn o bryd. Ymddengys hefyd i’r porj ar un adeg feddu ar gorn simnai addurnedig tywodfaen ond i hwnnw wisgo a dryllio yn nannedd y tywydd nes i un brics gael ei roi yn ei le (hanner cyntaf y 19g. mi dybiwn). Mae hwn bellach wedi ei orchuddio mewn calch.

Hefyd yr oeddwn wedi tybio fod yr adeilad ( yn enwedig bellach drwy fod cadarnhad fod y porj yn ddiweddarach) yn ffitio i fath rhanbarthol ôl ganoloesol a ddynodir gan Peter Smith “math A”, gyda chorn simnai ym mhob pen. Sylwais wedyn fod Peter Smith wedi ei glustnodi yn y dosbarth hwn.11

Ond fel y mae yr wyf yn chwannog i feddwl y gallai’r prif adeilad yn wreiddiol yno o gyfnod mor gynnar â thua 1578, ond fod cryn newid ar y ffenestru wedi bod. Ymddengys i mi fod y 4 brif ffenestr yn rhy lydan i fod yn wreiddiol yn “Sioraidd” a’u bod wedi bod yn rhai delltog deuran. Ond fel y dywedais nid oes dim i ddangos eu bod wedi eu symud fel yr oeddwn wedi tybio cyn tynnu’r gorffeniad.

Noder hefyd fod yr adeilad talcen grisiog yn y cefn yn awgrymu i mi ei fod cyn 1700, (pryd y stopiwyd defnyddio’r addurn anghyffredin hwn – gweler dylanwad Bachegraig, Syr Richard Clough yn ôl Peter Smith). Yn ystod ymweliad Richard Suggett â’r adeilad (9/4/10) tybiai mai 18g. oedd coed to’r adeilad hwn, o ran ei ffurf ei goed to, eto sylweddolwyd b od lle tân yn y llofft a allai ddyddio o gyfnod hŷn.

Prunbynnag o droi at gyfnod diweddarach, yr wyf yn ymwybodol i’r dafarn fod ar werth tua 1921 -2. Addawyd i mi gopi o’r dogfennau gwerthu gan Owen Cowell12, ond ar hyn o bryd mae’n methu â chael hyd iddynt. Ond mae’n cofio mai 1921 i 1922 oedd hynny ac i’w daid fod wedi cael £6 000 am y lle gan fragdy, a bod y lle cyn hynny yn gysylltiedig â David Williams (Castell Deudraeth). Y mae’r 1920au yn ffitio’n daclus i steil y gwaith coed mewnol y grisiau a’r drysau mewnol a’r ddyw ffenestr gwydr lliw sydd wedi goroesi’n rhannol ar y llawr gwaelod y naill ochr i’r porj.

Dichon mai’r pryd hynny bu nifer o newidiadau mawr i’r adeilad , o bosib dynnu grisiau tro wrth y lle tân a gosod y grisiau yn eu safle presennol. Y mae’r trawstiau rhwng y distiau yn y rhan honno yn “newydd” o gymharu â’r gweddill. Dyma hefyd pryd y gwnaed y lolfa a’r bar a’r snyg, fel y cofiaf hwy tua 1976. Y pryd hynny y gorchuddiwyd y tu blaen a rendr sment anwastad sydd bellach wedi ei dynnu i ffwrdd.13 Chwalwyd y snyg a chaewyd yr hwn ddrws bar yn yr 1980au, ac wedyn cafwyd newidiadau pellach mwy yn 2003 gan Punch Taverns pryd y bylchwyd yr hen wal gefn a symud y bar i estyniad mwy yn y cefn.

1 Yn nogfen Archifdy Caernarfon XSC 538, lle ceir cynllun o’r eiddo ar y pryd.
2 Archifdy Caernarfon: XD2/7687, 1738.
3 Archifdy Caernarfon: XD2/7688, 1732.
4 Mostyn (Bangor) 5667, 1724.
5 Mostyn (Bangor) 1314): “Tû ymhen y lan” [lan nid llan sydd yma mae un l gyntaf wedi ei dileu]
6 Griffith, John Edwards: Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Horncastle, 1914)
(adargraffiad : Wrexham, 2009), t. 279.
7 Ibid.
8 “Gwenhoyfar” yn llaen am “Gwen” Mostyn (bangor) 390: 14 Hydref 1565.
9 Mostyn (Bangor) 390: 14 Hydref, 1565.
10 Mostyn (Bangor) 1308.
11 Smith, Peter: Houses of the Welsh Countryside, (second enlarged edition), (London, 1988) t.
437.”Type A”.
12 Sgwrs Ebrill 2010.
13 Ar ôl tynnu’r rendre cyn sandblastio’r wal, gwelwyd mai gwyngalch gwyn oedd yn gyntaf ar y cerrig,
wedyn bu am gyfnod wedi ei wyngalchu’n las ac ar ôl hynny yn felyngoch.. O edrych ar ran fechan o’r
wal gefn sydd a gwyngalch arni o hyd, nid ymddengys fod y cefn erioed wedi bod yn las na melyngoch
ychwaith.

Llyfrau:

The Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire, Volume III: West, The Cantref of Lleyn (London, 1964)

Smith, Peter: Houses of the Welsh Countryside, (second enlarged edition), (London, 1988) 437 type a end chimney house sub medieval

Griffith, John Edwards: Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Horncastle, 1914) (adargraffiad : Wrexham, 2009)